SL(6)615 – Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025
Cefndir a diben
Mae Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 (“y Gorchymyn Cynnal Etholiadau”) yn darparu ar gyfer cynnal etholiadau. Mae'r Gorchymyn Cynnal Etholiadau yn darparu ar gyfer y ffordd y cynhelir etholiadau ac ymgyrchoedd etholiadol, ac ar gyfer heriau cyfreithiol i etholiad.
Mae'r Gorchymyn Cynnal Etholiadau yn ail-wneud, yn diweddaru ac yn cydgrynhoi'r darpariaethau presennol ar gynnal etholiadau o'r fath sydd yng Ngorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 ("Gorchymyn 2007"), sydd wedi ei ddiwygio sawl gwaith o'r blaen. Mae'r Gorchymyn Cynnal Etholiadau hefyd yn gweithredu newidiadau deddfwriaethol sy'n ofynnol gan Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 ac mae'n adlewyrchu newidiadau a wnaed yn Neddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024.
Nodir yn y Memorandwm Esboniadol i'r Gorchymyn Cynnal Etholiadau ei fod yn ddwyieithog am y tro cyntaf ac yn dilyn egwyddorion a nodir yn Neddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 sy'n ymwneud â defnyddio iaith fodern a chlir sy'n ddealladwy i'r darllenydd.
Gweithdrefn
Cadarnhaol drafft.
Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o'r Gorchymyn gerbron y Senedd. Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud y Gorchymyn oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo'r Gorchymyn drafft.
Materion technegol: craffu
Nodwyd y 36 pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
1. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol
Mae erthygl 6(5)(c) yn cyfeirio at “datganiad o wasanaeth” a “datganiad o gysylltiad lleol”. Nid yw'r termau hyn wedi eu diffinio yn erthygl 2 o'r Gorchymyn, a phan fyddant yn cael eu defnyddio mewn mannau eraill yn y Gorchymyn, fe'u defnyddir gan gyfeirio at ble y gellir dod o hyd i'w priod ystyron mewn deddfwriaeth arall. Gofynnir i Lywodraeth Cymru egluro pam na ddiffiniodd y termau hyn yn erthygl 2, neu ddarparu rhagor o wybodaeth yn erthygl 6(5)(c) i gynorthwyo'r darllenydd i ddeall y termau hyn.
2. Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr y testun Cymraeg a’r testun Saesneg
Yn erthygl 16(6), mae gwahaniaeth rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg. Yn y testun Saesneg, mae'n nodi "Schedule 4 makes furtherprovision..." ond mae’r testun Cymraeg yn dweud “Mae Atodlen 4 yn gwneud darpariaeth...”. Mewn mannau eraill mynegwyd ystyr yr un ymadrodd yn gywir yn y testun Cymraeg mewn darpariaethau tebyg fel erthyglau 14(2) a (3), a 15(4), 43(4), 65(5) a 71(8).
3. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol
Mae erthyglau 26(3) a 119(1) yn cyfeirio at "craffu". Ni roddir unrhyw ystyr penodol i'r gair hwn yn y Gorchymyn ac felly nid yw'n glir i'r darllenydd beth yw craffu.
4. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol
Mae erthyglau 26(3) a 26(4) yn cyfeirio at “unrhyw gosb am bleidleisio”. Ni roddir unrhyw ystyr penodol i'r term hwn yn y Gorchymyn ac felly nid yw'n glir i'r darllenydd at beth mae unrhyw gosb am bleidleisio yn cyfeirio.
5. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol
Yn erthygl 35(1)(d), cyfeirir at "adrannau 6A i 6D o Ddeddf 2000". Fodd bynnag, nid yw'r term "Deddf 2000" wedi ei ddiffinio yn y Gorchymyn. Mae'n ymddangos y dylai'r cyfeiriad fod at "Deddf Pleidiau Gwleidyddol 2000" a ddiffinnir yn erthygl 2(1) o'r Gorchymyn, os yw'r ddarpariaeth yn cyfeirio at adrannau 6A i 6D o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.
6. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol
Mae erthygl 47(9) yn croesgyfeirio at reol 70(1) o Atodlen 5 gyda'r cyfeiriad at "(dinistrio dogfennau)". Pennawd Rheol 70 yw "Cadw a dinistrio dogfennau a anfonwyd at y swyddog cofrestru perthnasol" ac mae rheol 70(1) yn ymdrin â chadw dogfennau yn unig, felly mae cyfeirio at "ddinistrio dogfennau" yng nghyd-destun rheol 70(1) yn anghywir, a gall fod yn ddryslyd i'r darllenydd.
7. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol
Mae erthygl 54(1) yn ei gwneud yn ofynnol i asiant etholiadol ddanfon "ffurflen wir" at y swyddog canlyniadau. Nid yw'r term hwn wedi ei ddiffinio yn y gorchymyn ac nid yw ffurf ffurflen wir yn glir gan nad oes ffurf wedi ei chynnwys at y diben hwn yn Atodlen 10 i'r Gorchymyn. Mae erthygl 54(8) yn rhoi'r pŵer i'r Comisiwn Etholiadol ragnodi ffurf ar gyfer ffurflen at y diben hwn, ond mae hynny'n bŵer yn ôl disgresiwn tra bod y gofyniad i ddanfon ffurflen wir yn erthygl 54(1) yn orfodol. Gofynnir i Lywodraeth Cymru ddarparu rhagor o wybodaeth ynghylch ffurf “ffurflen wir” pe na bai’r Comisiwn Etholiadol yn arfer ei bŵer o dan erthygl 54(8).
8. Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr y testun Cymraeg a’r testun Saesneg
Yn erthygl 56(3), mae gwahaniaeth rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg. Yn y testun Saesneg, mae'n nodi “the registered political party on whose party list the candidate was included” ond yr hyn a geir yn y testun Cymraeg yw’r “blaid wleidyddol gofrestredig y mae’r ymgeisydd wedi ei gynnwys ar ei rhestr”. Yn hyn o beth, mae'n arwyddocaol oherwydd bod "rhestr plaid" yn derm a ddiffinnir gan erthygl 2(1) ar gyfer y Gorchymyn hwn. Yn ogystal, mae’n bosibl y bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn dymuno ystyried bod amrywiaeth drwy gydol testun Saesneg y Gorchymyn rhwng datgan "on whose party list" neu "on whose list" mewn ymadroddion tebyg, ac mae enghreifftiau'n cynnwys erthyglau 71(3) a 119(2)(b) sy'n defnyddio "on whose list" ac erthyglau 45(1) a 118(2) sy'n nodi "on whose party list".
9. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol
Mae erthygl 67(4) yn cyfeirio at anfon cyfathrebiadau gan ymgeiswyr, ac yn nodi bod anfon cyfathrebiadau o'r fath, yn rhannol, yn ddarostyngedig i'r amod yn erthygl 67(2). Fodd bynnag, mae erthygl 67(2) yn nodi y "caniateir" i gyfathrebiad etholiadol fod yn gyfathrebiad drwy’r post sy'n cynnwys mater sy'n ymwneud â'r etholiad yn unig ac sy'n pwyso llai na 60 gram. Ymddengys bod hyn yn ddarpariaeth ddewisol yn hytrach nag amod – pe bai'n amod, byddai disgwyl y byddai'r gair "rhaid" wedi cael ei ddefnyddio yn lle "caniateir". Gan hynny, gofynnir i Lywodraeth Cymru esbonio sut mae'r ddwy ddarpariaeth hyn yn rhyngweithio.
10. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol
Mae erthygl 71(4)(a) yn cyfeirio at ysgolion cymunedol, ysgolion sefydledig neu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir. Nid yw'r termau hyn wedi eu diffinio yn y Gorchymyn. Mae deddfwriaeth arall yn diffinio'r termau hyn gan gyfeirio at Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (gweler, er enghraifft, adran 51(2) o Fil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) a basiwyd yn ddiweddar). Gofynnir i Lywodraeth Cymru esbonio pam nad yw'r termau hyn wedi eu diffinio yn y Gorchymyn.
11. Rheol Sefydlog 21.2(viii) – ei fod yn defnyddio iaith ryw-benodol
Yn y testun Saesneg, mae erthygl 72(3) yn cyfeirio at "chairman". Gofynnir i Lywodraeth Cymru egluro pam na ddefnyddiwyd y gair "chair" neu "chairperson" yn yr achos hwn.
12. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol
Mae erthygl 73(1) yn nodi rhestr o bersonau sy'n cael eu cyfrif fel swyddogion na chânt weithredu ar ran ymgeiswyr. Mae is-baragraff (d) yn cyfeirio at "unrhyw bartner neu glerc i unrhyw berson o’r fath". Nid yw'n glir at beth mae'r gair "partner" yn cyfeirio yma, p'un a yw'n bartner busnes, partner personol, partner sifil neu rywbeth arall. Gofynnir i Lywodraeth Cymru egluro beth yw ystyr "partner" yn y cyd-destun hwn.
13. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol
Mae erthygl 93(4) yn nodi, o ran y dystiolaeth sy’n cael ei thrawsgrifio mewn treial deiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd, “Rhaid i gopi o’r dystiolaeth fynd gyda’r dystysgrif a roddir gan y llys etholiadol i hysbysu’r Senedd". Nid yw'n glir at ba dystysgrif y cyfeirir yn y cyd-destun hwn – mae Rhan 4 o'r Gorchymyn yn cyfeirio at wahanol achosion lle gall fod angen tystysgrif. Mae'n bosibl bod hyn yn gysylltiedig â'r rhwymedigaeth ar y llys etholiadol i ardystio’n ysgrifenedig ei benderfyniad ynghylch y ddeiseb i Lywydd y Senedd o dan erthygl 101(3) ond nid yw hyn yn glir, felly gofynnir i Lywodraeth Cymru egluro'r sefyllfa.
14. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol
Mae erthygl 104(1) yn cyfeirio at ddeiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd yn cael ei thynnu'n ôl gyda chaniatâd y llys etholiadol neu "Uchel Lys drwy gais arbennig". Nid oes rhagor o wybodaeth yn y Gorchymyn ynghylch beth yw "cais arbennig". Mae'n bosibl y dylai hyn gyfeirio at achos arbennig sy'n cael ei ddwyn o dan erthygl 103 o'r Gorchymyn, ond byddem yn croesawu eglurhad gan Lywodraeth Cymru ar y pwynt hwn.
15. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol
Mae paragraff 7(2) o Atodlen 1 i'r Gorchymyn yn rhestru personau sy'n gallu ardystio a llofnodi cais am bleidlais drwy ddirprwy ar sail amhariad difrifol ar y golwg neu anabledd arall. Diffinnir mwyafrif y proffesiynau a restrir yn is-baragraff (2) drwy gyfeirio at ddarpariaeth ddeddfwriaethol neu gofrestr benodol. Fodd bynnag, mae is-baragraff (2)(h) yn cyfeirio at "ymarferydd Gwyddor Gristnogol" heb unrhyw ddiffiniad pellach na chyfeirio at unrhyw gofrestr o ymarferwyr o'r fath. Gofynnir i Lywodraeth Cymru egluro:
· y sail dros gynnwys proffesiwn y mae’n ymddangos nad yw’n cael ei reoleiddio ar y rhestr hon, ac
· a yw cynnwys proffesiwn heb ei reoleiddio yn creu unrhyw risg mewn perthynas â'r system pleidleisio drwy ddirprwy.
16. Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr y testun Cymraeg a’r testun Saesneg
Ym mharagraff 16(1)(a) o Atodlen 2, mae'r testun Saesneg yn cyfeirio at "application to remove a person from record of absent voters", tra bo’r Gymraeg yn dweud "cais i dynnu enw person o’r cofnod o bleidleiswyr absennol".
17. Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr y testun Cymraeg a’r testun Saesneg
Ym mharagraff 18(2)(b) o Atodlen 2, mae'r testun Saesneg yn darparu bod yn rhaid i'r swyddog canlyniadau wneud y canlynol: “mark the postal ballot box with the words “blwch pleidleisio drwy’r post” or the words “postal ballot box” or both”. Mae’r geiriau "neu'r ddau" ar goll o'r testun cyfatebol Cymraeg.
18. Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr y testun Cymraeg a’r testun Saesneg
Ym mharagraff 23(9)(b) o Atodlen 2, mae'r testun Saesneg yn cyfeirio at unrhyw bapur pleidleisio arall "with the postal voting statement attached". Yn y testun Cymraeg cyfatebol dywedir "ac sydd â’r datganiad pleidlais drwy’r post ynghlwm wrthi". Sylwer ar ffurf fenywaidd yr arddodiad "wrthi". Gan fod "papur pleidleisio" yn enw gwrywaidd, nid yw'r testun Cymraeg yn gwneud synnwyr.
19. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol
Ym mharagraff 23(9)(b) o Atodlen 2, nid yw ystyr y ddarpariaeth yn glir oherwydd gwahaniaeth yn y gystrawen rhwng y testunau Cymraeg a Saesneg. Mae'r testun Saesneg yn awgrymu mai'r datganiad pleidleisio drwy'r post y mae'n rhaid ei farcio â’r geiriau "gwrthodwyd dros dro", "provisionally rejected" neu'r ddau, tra bod y testun Cymraeg yn darparu mai'r papur pleidleisio y mae'n rhaid ei farcio yn y modd hwnnw. Gofynnir i Lywodraeth Cymru egluro ystyr y ddarpariaeth.
20. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol
Mae paragraff 23(9)(c) o Atodlen 2 yn y testun Saesneg yn darparu, mewn amgylchiadau penodol, bod yn rhaid i'r swyddog canlyniadau roi yn y daliedydd ar gyfer pleidleisiau a wrthodwyd (y weithdrefn wirhau), unrhyw ddatganiad pleidleisio drwy'r post dilys wedi ei farcio â "provisionally rejected". Mae'r testun Cymraeg cyfatebol yn cyfeirio at unrhyw ddatganiad pleidleisio drwy'r post dilys sydd wedi ei farcio â "gwrthodwyd dros dro". Mae darpariaethau cyfatebol mewn mannau eraill yn Atodlen 2 yn cyfeirio at ddatganiadau pleidleisio drwy'r post wedi eu marcio yn Gymraeg neu Saesneg neu'r ddau yn y testunau Cymraeg a Saesneg. Gofynnir i Lywodraeth Cymru egluro’r anghysondeb hwn.
21. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol
Ym mharagraff 11 o Atodlen 3, mae'r testun Saesneg yn addasu testun Saesneg y cwestiwn yn Nhabl 1 yn rheol 44(4) yn unig, tra bod y testun Cymraeg yn addasu testun Cymraeg y cwestiwn hwnnw yn unig. Fodd bynnag, gan fod y Tabl yn y naill iaith a’r llall yn cynnwys y cwestiwn yn Gymraeg ac yn Saesneg, ymddengys y dylid gwneud yr addasiad yn ddwyieithog yn y testunau Cymraeg a Saesneg.
Mae'r un mater yn ymddangos ym mharagraff 11 o Atodlen 4.
22. Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr y testun Cymraeg a’r testun Saesneg
Ym mharagraff 23(b) o Atodlen 3 mae testun Saesneg paragraff (2)(a) wedi ei addasu yn cyfeirio at "the office of councillor for a county or county borough" tra bod y testun cyfatebol Cymraeg yn cyfeirio at "swyddi cynghorwyr sy’n digwydd dod yn wag mewn cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol”.
23. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol
Mae rheol 13(7) o Atodlen 5 i'r Gorchymyn yn cyfeirio at bersonau a grybwyllir ym mharagraff (1)(a) i (d) o reol 13. Fodd bynnag, nid oes is-baragraffau ym mharagraff (1). Ymddengys y dylai'r cyfeiriad cywir fod at baragraff (2)(a) i (d) ond gofynnir i Lywodraeth Cymru gadarnhau hyn.
24. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol
Mae Rheol 55(1) o Atodlen 5 i'r Gorchymyn yn cyfeirio at y camau y mae'n rhaid i'r swyddog llywyddu eu cymryd cyn gynted ag y bo'n ymarferol "ar ôl i bob pleidleisiwr fwrw ei bleidlais". Mae erthygl 2 yn diffinio "pleidleisiwr", yn rhannol, fel "person sy'n pleidleisio mewn etholiad i’r Senedd". Mae hwn yn ddiffiniad eang sy'n ymddangos fel pe bai’n golygu bod yn rhaid i'r swyddog llywyddu gymryd camau o dan reol 55 ar ôl i bob person sy'n pleidleisio yn yr etholiad bleidleisio, ac nad yw wedi ei gyfyngu i'r orsaf bleidleisio benodol honno. Gofynnir i Lywodraeth Cymru egluro sut mae swyddog llywyddu pob gorsaf bleidleisio i wybod, neu sut mae modd iddo gael gwybod, bod pob person sy'n pleidleisio yn yr etholiad wedi bwrw ei bleidlais.
25. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol
Mae rheol 66(3)(d) a 67(2)(h) o Atodlen 5 i'r Gorchymyn yn cyfeirio at "gofnodion cofrestru". Mae'r term hwn wedi ei ddiffinio at ddibenion rheolau eraill, ond nid ar gyfer y ddwy reol hyn, felly nid yw'n glir wrth edrych ar y rheolau hyn beth yw ystyr y term.
26. Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr y testun Cymraeg a’r testun Saesneg
Yn Atodlen 5, yn rheol 68(2)(d) a (3)(c), mae gwahaniaeth rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg. Yn y testun Saesneg, mae'n nodi, "an order for the inspection or production of the whole or part of its contents". Yn y testun Cymraeg, mynegir "or production" drwy ddweud "neu i'w ddangos" gydag "i'w" yn rhagenw gwrywaidd sy'n achosi treiglad meddal i’r gair "dangos" fel bod yn rhaid iddo fod yn cyfeirio at enw unigol gwrywaidd cynharach. Fodd bynnag, yn y testun Cymraeg mae "rhan" yn yr ymadrodd "neu ran ohono" yn enw benywaidd ac ni fydd yn cael ei gynnwys yn yr ymadrodd "i'w ddangos", sy’n berthnasol i enw gwrywaidd yn unig. Gan hynny, nid yw'r testun Cymraeg yn llwyddo i gyfleu ystyr y frawddeg yn llawn gan y gall llys etholiadol wneud gorchymyn i ddangos naill ai y cyfan neu ran o gynnwys y pecynnau a seliwyd.
27. Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr y testun Cymraeg a’r testun Saesneg
Yn Atodlen 5, yn rheol 75(5), mae gwahaniaeth rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg. Yn y testun Saesneg, mae'n cyfeirio at gyfnod o amser, sef “21 days after the day on which…” ond mae’r testun Cymraeg yn dweud "21 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad...". Mewn mannau eraill defnyddiwyd gair mwy llythrennol, "diwrnod", wrth ddisgrifio cyfnodau o amser yn nhestun Cymraeg y Gorchymyn.
28. Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr y testun Cymraeg a’r testun Saesneg
Yn Atodlen 5, yn rheol 75(11), yn y geiriau agoriadol cyn is-baragraff (a), ceir gwahaniaeth rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg. Mae’r testun Saesneg yn cyfeirio at "under paragraph (4)(b)(i)" ond mae’r testun Cymraeg yn dweud "o dan (4)(b)(i)".
29. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.
Yn Atodlen 9, ym mharagraff 2(1), mae’r dehongliad o reol 2(2) o Reolau Deisebau Etholiad 1960 yn cael ei addasu drwy fewnosod diffiniadau ychwanegol. Fodd bynnag, yn y testun Cymraeg, mae'r diffiniadau newydd i gyd wedi eu mewnosod yn Gymraeg er bod Rheolau Deisebau Etholiad 1960 yn Saesneg yn unig. Gan hynny, ymddengys y dylai'r diffiniadau newydd hyn fod wedi cael eu mewnosod yn Saesneg hefyd gan destun Cymraeg paragraff 2(1) yn Atodlen 9 i'r Gorchymyn o dan y confensiwn arferol (fel sy'n digwydd gydag addasiadau pellach i Reolau 1960 yn Atodlen 9 – gweler, er enghraifft, baragraff 3 o Atodlen 9).
Yn amodol ar ymateb Llywodraeth Cymru i'r pwynt hwn, nodwn y ddau bwynt cysylltiedig a ganlyn sy'n ymwneud â pharagraff 2(1) o Atodlen 9:
· yn y diffiniad o "y Clerc" sydd wedi ei fewnosod fel addasiad i reol 2(2) o Reolau 1960, mae gwahaniaeth rhwng y testun Cymraeg a'r testun Saesneg, gan mai ”Clerk of the Senedd” yw’r term sy’n cael ei ddiffinio yn y testun Saesneg.
o Defnyddir y diffiniad Saesneg yn yr addasiad a wneir gan baragraff 4(b) o Atodlen 9 ac yn y Templed Deiseb a fewnosodir yn Rheolau 1960 fel addasiad gan baragraff 7 o'r Atodlen honno. Fodd bynnag, "Clerc y Senedd" yn hytrach na'r term diffiniedig "y Clerc" a ddefnyddir yn nhestun Cymraeg y Templed Deiseb a fewnosodir gan baragraff 7 o Atodlen 9.
· yn y diffiniad o "etholiad i’r Senedd" sydd wedi ei fewnosod fel addasiad i reol 2(2) o Reolau 1960, mae gwahaniaeth rhwng y testun Cymraeg a'r testun Saesneg gan mai “Senedd Cymru election” sy’n cael ei ddiffinio yn y testun Saesneg.
o Defnyddir y diffiniad Saesneg yn y Templed Deiseb a fewnosodir yn Rheolau 1960 fel addasiad gan baragraff 7 o Atodlen 9. Fodd bynnag, "etholiad Senedd Cymru" yn hytrach na'r term diffiniedig "etholiad i'r Senedd" a ddefnyddir yn nhestun Cymraeg y Templed Deiseb a fewnosodir gan baragraff 7.
30. Rheol Sefydlog 21.2 (vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr y testun Cymraeg a’r testun Saesneg
Yn Atodlen 9, ym mharagraff 7, ym mhennawd y Templed Deiseb newydd, mae gwahaniaeth rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg. Yn y testun Saesneg, mae'n nodi “Senedd Cymru Election Petition Template” ond yr hyn a geir yn y testun Cymraeg yw "Templed Deiseb Etholiad ar gyfer Etholiad i’r Senedd". Yn hyn o beth, mae'r testun Cymraeg wedi defnyddio'r diffiniad newydd (“deiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd”) a fewnosodir fel addasiad yn rheol 2(2) o Reolau 1960 gan baragraff 2(1) o Atodlen 9. Fodd bynnag, nid yw'r testun Saesneg wedi defnyddio'r diffiniad "Senedd election petition" a fewnosodir yn rheol 2(2) o Reolau 1960.
31. Rheol Sefydlog 21.2 (vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr y testun Cymraeg a’r testun Saesneg
Yn Atodlen 10, yn Ffurf 20, ceir gwahaniaeth rhwng pennawd y Ffurfiau Saesneg a geir yn fersiynau Cymraeg a Saesneg y Gorchymyn. Yn y fersiwn Saesneg, pennawd y ffurf Saesneg yw “Form of declaration to be made by the companion of a voter with severe sight impairment or other disability or inability to read”. Ond pennawd y Ffurf Saesneg yn y fersiwn Gymraeg o'r Gorchymyn yw “Form of declaration to be made by the companion of a voter with disabilities”. Dyma oedd teitl y ffurf yn fersiwn ymgynghori’r Gorchymyn. Mae'r teitl wedi ei ddiwygio a'i ddiweddaru yn y ffurf Saesneg yn nhestun Saesneg y Gorchymyn, ond nid yn y ffurf Saesneg sydd yn y testun Cymraeg.
32. Rheol Sefydlog 21.2 (vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr y testun Cymraeg a’r testun Saesneg
Yn Atodlen 10, yn Ffurf 23, mae gwahaniaeth rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg. Yn y testun Saesneg, yn y geiriau mewn llythrennau italig ar ôl "Note", ceir "in accordance with rule 75 of Schedule 5". Ond yn nhestun Cymraeg y Ffurf, mae'r geiriau "â rheol" ar goll yn y cyfeiriad fel mai'r hyn a geir yw "yn unol 75 o Atodlen 5".
33. Rheol Sefydlog 21.2 (vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr y testun Cymraeg a’r testun Saesneg
Yn Atodlen 11, ym mharagraff 1(3), mae gwahaniaeth rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg. Yn y testun Saesneg, yn y geiriau mewn cromfachau, nodir "(amendments to the National Assembly for Wales (Representation of the People) Order 2007)”. Ond yn y testun Cymraeg mae'r flwyddyn "2007" ar goll o deitl y Gorchymyn a hefyd y gromfach ar y diwedd.
34. Rheol Sefydlog 21.2 (vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr y testun Cymraeg a’r testun Saesneg
Yn Atodlen 11, ym mharagraff 1(4)(b), mae gwahaniaeth rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg. Yn y testun Saesneg, yn y diffiniad newydd o "2025 Order" mae'n nodi teitl y Gorchymyn fel "the Senedd Cymru (Representation of the People) Order 2025”. Ond yn y testun Cymraeg, y flwyddyn yn nheitl y Gorchymyn yw "2005" felly mae’n dweud “Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2005”.
35. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.
Byddem yn ddiolchgar am esboniad ar gyfer y ddau bwynt a ganlyn sy'n ymwneud â pharagraff 5 o Atodlen 11 i'r Gorchymyn:
· ym mharagraff 5(2)(b)(ii), mae'r term “an Assembly election” wedi'i ddiwygio'n destunol fel ei fod yn nodi “a Senedd election” yn rheoliad 2(3) o Reoliadau Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (Swyddogaethau Swyddogion Canlyniadau) 2012. Yn ogystal, mae'r un term wedi ei ddiwygio yn rheoliad 2A o Reoliadau 2012 gan baragraff 5(3)(a) a (b) o Atodlen 11. Fodd bynnag, diffinnir y term "Assembly election" ar gyfer rheoliad 2 gan reoliad 2(5) o Reoliadau 2012. Gan hynny, a allai Llywodraeth Cymru esbonio pam nad yw wedi diwygio'r diffiniad o "Assembly election" yn destunol yn rheoliad 2(5) o Reoliadau 2012? Yn ogystal, a ddylai'r termau perthnasol eraill a ddiffinnir yn rheoliad 2(5) megis "Assembly", "Assembly constituency" ac "Assembly electoral region" hefyd fod wedi cael eu diwygio’n destunol i nodi "Senedd" yn rheoliad 2(5) o Reoliadau 2012?
· ym mharagraff 5(3), gwneir diwygiadau i reoliad 2A o Reoliadau 2012. Fodd bynnag, mae gwall hanesyddol posibl yn y diwygiadau blaenorol a wnaed gan OS 2016/300 a fewnosododd reoliad 2(3) i (5) a rheoliad 2A yn Rheoliadau 2012. O ganlyniad i'r diwygiadau hynny, dim ond ar gyfer rheoliad 2 o'r Rheoliadau hynny yr oedd rheoliad 2(5) o Reoliadau 2012 yn diffinio "Assembly", "Assembly election" ac "Assembly constituency". Gan hynny, nid yw'r termau hynny wedi eu diffinio i'w defnyddio yn rheoliad 2A o Reoliadau 2012. Yn dilyn y diwygiadau a wneir gan baragraff 5(3) o Atodlen 11 i'r Gorchymyn hwn, ymddengys y bydd y broblem yn parhau, sef na fydd y termau a geir yn rheoliad 2(5) o Reoliadau 2012 wedi eu diffinio gydag ystyr ar gyfer rheoliad 2A o'r Rheoliadau hynny.
36. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol
Mae Atodlen 12(11) yn dweud ei bod yn dirymu "Rheoliadau Senedd Cymru (Cyfrifon Swyddogion Canlyniadau) 2021". Mae'n ymddangos bod hyn yn gamgymeriad gan nad yw'n ymddangos bod offeryn dan y teitl hwn yn bodoli. Nid yw'r rhif OS ar gyfer yr offeryn hwn wedi ei ddarparu mewn troednodyn.
Nodwn fod fersiwn ymgynghori'r Gorchymyn hwn yn dweud i ddechrau ei fod yn dirymu Rheoliadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cyfrifon Swyddogion Canlyniadau) 2011 (OS 2010/676) o dan Atodlen 12(1). Mae'r Rheoliadau hyn yn dal i fod mewn grym, ond mae eu dirymu wedi ei hepgor o'r Gorchymyn hwn. Nid yw'r rheswm am hyn yn glir. Nid yw'n glir chwaith a yw'r cyfeiriad anghywir at Reoliadau 2021 yn Atodlen 12 yn gysylltiedig â dileu Rheoliadau 2011.
Rhinweddau: craffu
Nodwyd y chwe phwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
37. Rheol Sefydlog 21.3(i) – ei fod yn codi tâl ar Gronfa Gyfunol Cymru neu ei fod yn cynnwys darpariaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol i daliadau gael eu gwneud i’r Gronfa honno neu i unrhyw ran o’r llywodraeth neu i unrhyw awdurdod lleol neu gyhoeddus yn gydnabyddiaeth am unrhyw drwydded neu gydsyniad neu am unrhyw wasanaethau sydd i’w rhoi, neu ei fod yn rhagnodi swm unrhyw dâl neu daliad o’r fath
Mae erthygl 23 o’r Gorchymyn yn nodi bod gan swyddog canlyniadau hawl i adennill ei daliadau mewn perthynas â'i dreuliau sy'n ymwneud ag etholiad i’r Senedd. Gall hefyd adennill taliadau ar ran gweinyddwyr etholiadol sydd wedi eu rhestru yn erthygl 23(3). Mae erthygl 23(7) yn nodi bod unrhyw symiau y caniateir eu hadennill i'w codi ar Gronfa Gyfunol Cymru a'u talu allan ohoni. Mae erthygl 23(8) yn nodi ymhellach, pan fo'r cyfraniadau blwydd-daliad y mae'n ofynnol i awdurdod lleol eu talu mewn perthynas ag unrhyw berson yn cael eu cynyddu gan unrhyw ffi a delir o dan erthygl 23 fel rhan o daliadau swyddog canlyniadau mewn etholiad i’r Senedd, yna rhaid codi swm sy'n hafal i'r cynnydd ar Gronfa Gyfunol Cymru a’i dalu allan ohoni i'r awdurdod.
38. Rheol Sefydlog 21.3(i) – ei fod yn codi tâl ar Gronfa Gyfunol Cymru neu ei fod yn cynnwys darpariaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol i daliadau gael eu gwneud i’r Gronfa honno neu i unrhyw ran o’r llywodraeth neu i unrhyw awdurdod lleol neu gyhoeddus yn gydnabyddiaeth am unrhyw drwydded neu gydsyniad neu am unrhyw wasanaethau sydd i’w rhoi, neu ei fod yn rhagnodi swm unrhyw dâl neu daliad o’r fath
Mae erthygl 67 o'r Gorchymyn yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru dalu'r darparwr gwasanaeth sy'n darparu gwasanaeth post am ddim ar gyfer cyfathrebiadau etholiadol, ac mae'r symiau sy'n daladwy i'w codi ar Gronfa Gyfunol Cymru.
39. Rheol Sefydlog 21.3(i) – ei fod yn codi tâl ar Gronfa Gyfunol Cymru neu ei fod yn cynnwys darpariaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol i daliadau gael eu gwneud i’r Gronfa honno neu i unrhyw ran o’r llywodraeth neu i unrhyw awdurdod lleol neu gyhoeddus yn gydnabyddiaeth am unrhyw drwydded neu gydsyniad neu am unrhyw wasanaethau sydd i’w rhoi, neu ei fod yn rhagnodi swm unrhyw dâl neu daliad o’r fath
Mae erthygl 92 o'r Gorchymyn yn nodi bod yn rhaid talu'r treuliau yr eir iddynt gan farnwyr mewn perthynas â deiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd allan o Gronfa Gyfunol Cymru.
40. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd
Mae gwahanol ddarpariaethau o'r Gorchymyn yn galluogi'r Comisiwn Etholiadol i wneud rheoliadau. Nid yw'r Gorchymyn yn gwneud unrhyw ddarpariaeth ar gyfer gosod rheoliadau o'r fath gerbron y Senedd, nac ar gyfer unrhyw hysbysiad am reoliadau o'r fath i'r Senedd na Gweinidogion Cymru. Nodir y byddai'n rhaid rhoi copi o'r rheoliadau i'r Ysgrifennydd Gwladol o dan baragraff 21 o Atodlen 1 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000, ac o dan baragraff 22(4) byddai'n rhaid ei roi i'r cyhoedd hefyd, ond gofynnir i Lywodraeth Cymru esbonio pam nad oes rhaid gosod rheoliadau a wnaed gan y Comisiwn Etholiadol mewn perthynas â Chymru gerbron y Senedd na darparu copi i'r Senedd na Gweinidogion Cymru.
41. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd
Mae paragraff 4(2) o Atodlen 6 i'r Gorchymyn yn nodi bod unrhyw rodd o lai na £500 i'w diystyru fel rhodd sy'n ddarostyngedig i'r rheolau yn Atodlen 6. Nodir bod fersiwn ymgynghori’r Gorchymyn hwn wedi gosod ffigur o £50 at y diben hwn. Gofynnir i Lywodraeth Cymru esbonio beth achosodd y cynnydd sylweddol hwn.
42. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd
Roedd fersiwn ymgynghori'r Gorchymyn hwn yn cynnwys ffurf fanwl (Ffurf 29) yn Atodlen 10 ar gyfer ffurflen treuliau etholiadol ymgeiswyr unigol. Mae'r ffurf hon wedi ei hepgor o'r Gorchymyn. Roedd y ffurf a hepgorwyd yn debyg iawn i Ffurf CW yng Ngorchymyn Cynnal Etholiadau 2007. Mae'r gofyniad i gyflwyno ffurflen treuliau etholiadol yn parhau i fod yn erthygl 54. Mae'r wybodaeth ariannol sy'n ofynnol yn gynhwysfawr, yn fanwl ac yn gymharol gymhleth.
O dan y Gorchymyn hwn, mae gan y Comisiwn Etholiadol bŵer (ond nid dyletswydd) i ragnodi ffurf ar gyfer ffurflen y caniateir ei defnyddio at ddibenion cyflwyno’r ffurflenni angenrheidiol sy'n ofynnol gan ymgeiswyr unigol.
Gofynnir i Lywodraeth Cymru esbonio'r rhesymeg dros ddileu Ffurf 29 a rhoi pŵer i'r Comisiwn Etholiadol ragnodi ffurf, ac a yw'r Comisiwn Etholiadol yn bwriadu rhagnodi ffurf o'r fath mewn pryd ar gyfer etholiadau'r Senedd yn 2026. Yn absenoldeb ffurf ragnodedig, gofynnir i Lywodraeth Cymru a yw'n fodlon y gallai ymgeisydd unigol gyflwyno'r cyfan o’r wybodaeth fanwl sy'n ofynnol o dan erthygl 54 yn hyderus.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â’r holl bwyntiau adrodd, ac eithrio pwyntiau adrodd ar rinweddau 37 i 39 yn gynwysedig.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
23 Mai 2025